Cleddyfa
camp o ymladd gan ddefnyddio cleddyfau tenau iawn. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cleddyfa yw'r grefft ymladd â chleddyf. Cafodd ei datblygu yn wreiddiol ar faes y gad, ac wedyn, fel ffordd o amddiffyn eich anrhydedd mewn gornest (yn aml iawn hyd at farwolaeth un o'r gornestwyr).
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, chwaraeon olympaidd |
---|---|
Math | combat sport, chwaraeon olympaidd |
Yn cynnwys | Q3381658, attack |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Heddiw, mae cleddyfa mor boblogaidd ag erioed, ond nid mor ddifrifol, ac ychydig iawn sy'n cael eu hanafu.[1] Fe'i defnyddir yn bennaf fel mabolgamp neu i archwilio ffurfiau hanesyddol o groesi cleddyfau. Mae cleddyfa yn un o bedair camp sydd wedi ymddangos ym mhob Gemau Olympaidd Modern ers 1896. Y gweddill yw athletau, seiclo, nofio a gymnasteg.
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar gleddyfa fel mabolgamp orllewinol fodern, a cheir sôn am gleddyfa hanesyddol a chleddyfa dwyreiniol.