Sunni
From Wikipedia, the free encyclopedia
Enwad fwyaf Islam yw Sunni neu Islam Sunni. Cyfeirir at Islam Sunni fel Ahl as-Sunnah wa’l-Jamā‘ah (Arabeg: أهل السنة والجماعة "pobl [sy'n dilyn] esiampl (Mohamed) a'r Gymuned") hefyd neu Ahl as-Sunnah (Arabeg: أهل السنة). Daw'r gair 'Sunni' o'r gair Sunnah (Arabeg: سنة), sy'n golygu geiriau neu weithredoedd neu esiampl Mohamed, proffwyd Islam.
Rhan o gyfres ar |
---|
Athrawiaeth |
Arferion |
Hanes ac Arweinwyr |
Ahl al-Bayt · Sahaba |
Testunau a Deddfau |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Diwylliant a Chymdeithas |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Islamoffobia · Termau Islamig |
Mae tua 85% neu ragor o Fwslemiaid yn Sunni. Yr enwad ail fwyaf yw Islam Shia (rhwng 15% a 20% o Fwslemiaid), sydd i'w cael yn bennaf yn Iran, de Irac, Iemen a rhannau o Syria, Libanus ac Affganistan: y tu allan i'r cadarnleoedd hynny mae'r Sunni yn ffurffio'r mwyafrif llethol yn y gwledydd Islamig, o'r Maghreb i Indonesia.
Deilliodd y gwahaniaethau rhwng Mwslimiaid Sunni a Shia o anghytundeb ynghylch yr olyniaeth i Muhammad ac o ganlyniad daeth arwyddocâd gwleidyddol ehangach a pgegynu barn, yn ogystal â dimensiynau diwinyddol a barnwrol. Yn ôl traddodiadau Sunni, ni adawodd Muhammad unrhyw olynydd. Penododd cyfranogwyr y Saqifah dyn o'r enw Abu Bakr fel y nesaf yn y llinell (hy y califf cyntaf).[1][2][3] Mae hyn yn wahanol i farn y Shïa, sy'n credu bod Muhammad wedi penodi ei fab-yng-nghyfraith a chefnder Ali ibn Abi Talib yn olynydd iddo.[4]
Cyfeirir at ymlynwyr y Sunni mewn Arabeg yn ahl as-sunnah wa l-jamāʻah ("pobl y Sunnah a'r gymuned") neu ahl as-Sunnah, yn fyr. Gelwir eu hathrawiaeth a'u harferion weithiau'n Sunniiaeth,[5] tra bod ymlynwyr yn cael eu hadnabod fel Mwslemiaid Sunni, Sunnis, Sunniiaid, ac Ahlus Sunnah. Cyfeirir at Sunni weithiau fel "Islam uniongred",[6][7][8] er bod rhai ysgolheigion yn ystyried y cyfieithiad hwn yn amhriodol.[9]
Mae gan y Coran, ynghyd â'r hadith (yn enwedig y rhai a gasglwyd yn Kutub al-Sittah) gonsensws cyfreithiol rhwymol, ac felly'n sail i bob deddf draddodiadol o fewn Islam Sunni. Mae dyfarniadau Sharia yn deillio o'r ffynonellau sylfaenol hyn, ar y cyd â rhesymu, ystyriaeth o les y cyhoedd a disgresiwn cyfreitheg, gan ddefnyddio egwyddorion cyfreitheg a ddatblygwyd gan yr ysgolion cyfreithiol traddodiadol. Mewn materion sy'n ymweneud a chredo, mae traddodiad Sunni yn cynnal chwe cholofn imān (ffydd) ac yn cynnwys ysgolion Ash'ari a Maturidi o Kalam (diwinyddiaeth) yn ogystal â'r ysgol destunol a elwir yn ddiwinyddiaeth draddodiadol.