Epidemig y firws Zika
Epidemig yn yr Americas / From Wikipedia, the free encyclopedia
Er bod gwyddonwyr wedi astudio'r Firws Zika o fewn rhuban o diriogaeth o Affrica i Asia ers yr 1950au, ym Mrasil, yn Ebrill 2015 y dechreuodd y feirws ymledu'n wyllt, nes y cyhoeddwyd yn Ionawr 2016 ei fod wedi cyrraedd lefel epidemig yn yr Americas. Ofnir ei fod bellach wedi ymledu, drwy'r mosgito i wledydd eraill yn Ne a Chanol America, Mecsico a'r Caribî.
Y sefyllfa yn Ebrill 2016 | |
Dyddiad | Ebrill 2015 –y presennol[1] |
---|---|
Canlyniad | Hyd at Mai 2016 roedd 7,982 achos pendant wedi'i gadarnhau yn yr Americas a 485 yn Affrica. |
Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd Cyfundrefn Iechyd y Byd ei bod yn bur debygol y gwelir y firws yn ymledu drwy'r rhan fwyaf o'r Americas.[2] Yn Chwefror cyhoeddodd y Gyfundrefn y credant fod cysylltiad rhwng y firws Zika a'r afiechyd Microceffali (lleihad ym maint y pen) a Syndrom Guillain–Barré (y cyhyrau'n gwanhau'n sydyn o achos fod y system imiwnedd yn difrodi'r system nerfol.
Gwraidd y drwg yw'r mosgito Aedes aegypti sy'n eitha cyffredin yn nhrofanau ac isdrofannau De America. Gall Teigr Asia (neu'r mosgito Aedes albopictus) hefyd ei ymledu. Mae'r mosgito yma i'w gael yn eitha cyffredin mor ogleddol a'r Llynnoedd Mawr yn Unol Daleithiau America.[3] Cafwyd sawl achos lle ceir tystiolaeth y gall y firws Zika hefyd ymledu drwy ryw.[4]
Twymyn eitha cyffredin a chochni tebyg i frech dros y croen yw'r unig symtomau a gaiff un pumed y bobl a heintir, a gelwir ef yn 'dwymyn Zika'. Ond pan fo'r mosgito'n ymosod ar ferch feichiog, mae'r baban a gaiff ei eni'n aml yn dioddef o microceffali drwy iddo gael ei heintio gan y fam.