Homo ergaster
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o rywogaeth o'r genws Homo yw Homo ergaster (Hen Roeg: ἐργαστήρ "dyn gweithiol") neu Homo erectus Affricanaidd sydd wedi dod i ben. Arferai fyw yn nwyrain a de Affrica yn ystod yr epoc Pleistosen: rhwng 1.9-1.4 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[1] Pan holltwyd llinach y Tsimpansî, daeth homininau newydd i fodolaeth: Homo ergaster a Homo erectus. Yn dilyn darganfyddiadau newydd yn Dmanisi, yng ngwlad Georgia yn 2015, ceir carfan gref o Paleoanthropolegwyr sy'n credu na ddylai Homo ergaster fod ar wahân i h. erectus, ond yn hytrach mai'r un rhywogaeth ydynt mewn gwirionedd. Cafwyd nifer o ffosiliau a dadogir i'r rhywogaeth hon, a'r mwyaf nodedig yw'r ysgerbwd hwnnw a elwir yn "Fachgen Turkana" a ddarganfuwyd ger Llyn Turkana, Cenia sydd rhwng 1.5 a 1.6 CP. Cafwyd ffosiliau hefyd yn Tansanïa, Ethiopia, Cenia, a De Affrica.
Homo ergaster Amrediad amseryddol: 1.9–1.3 Miliwn o fl. CP Pleistosen Cynnar | |
---|---|
Penglog KNM-ER 3733, darganfyddwr: Bernard Ngeneo, 1975. (Cenia) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Mammalia |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | Homo |
Rhywogaeth: | H. ergaster |
Enw deuenwol | |
†Homo ergaster Colin Groves a Vratislav Mazák, 1975 | |
Bu H. habilis a H. ergaster yn cyd-fyw yn Affrica am bron i hanner miliwn o flynyddoedd, ac mae'n ymddangos (yn 2015) i'r ddau darddu o'r un hynafiad.
Bathwyd y cyfenw ergaster ("gweithiol") yn 1975 gan Groves a Mazák oherwydd gallu H. ergaster i weithio offer llaw, am y tro cyntaf; dyma ddechrau'r hyn a elwir yn "dechnoleg Acheulean".