Neithon
sant a mab Brychan (5g) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o feibion Brychan oedd Neithon (hefyd: Noethon, Nwython; 5g) a ymgartrefodd fel llawer o'i frodyr yng ngogledd-ddwyrain Cernyw. Mae'n gysylltiedig a'r pentrefan 'Stoke' ger pentref Hartland, Dyfnaint. Nodir 468 fel ei ddyddiad geni a 17 Mehefin fel ei wylmabsant a'i ddyddiad marw - o bosib yn 510.
Neithon | |
---|---|
Bu farw | 17 Mehefin 510 Hartland |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 17 Mehefin |
Tad | Brychan |
Mae'r cofnod cynharaf amdano'n dod o lawysgrif o'r enw Gotha MS a ganfuwyd yn 1937, sef Bywyd Meithon.[1][2]
Nodir yn y llawysgrif hwn iddo gael ei eni yn Iwerddon a hwylio i Hartland lle ymgartrefodd mewn dyffryn ffrwythlon, ger ffynnon a elwir hyd heddiw'n St Nectan's Well. Ceir eglwys yma hefyd mewn pentrefan o'r enw Stoke; yr enw ar y pentrefan hwn yn Llyfr Dydd y Farn yw 'Nistanestoc' ac yn 1189 cofnodir yr enw fel 'Nectanestoke'.
Ceir chwedl yn y Gotha MS fod ei frodyr a'i chwiorydd yn ymweld ag ef yn flynyddol ar Nos Galan. Roedd gan Neithon ddwy fuwch a dygwyd y ddwy gan ladron, yn ôl y chwedl. Wedi hir a hwyr canfyddodd y gwartheg yn 'Neweton' (y Stoke Newydd), ond trodd y lladron arno gan ei ladd a thorri ei ben - a hynny ar 17 Mehefin. Ond cododd Neithon ei ben o'r llawr a'i gario yn ei ddwylo at y ffynnon, ger ei gartref.
Ceir sawl Neithon yn y cynod hwn gan gynnwys Neithon ap Gwyddono, un o frenhinoedd Ystrad Clud, Neithon ap Senyllt, tad Rhun ac un o hynafiaid Merfyn Mawr Tywysog Ynys Manaw a Neithon ap Cathen.