Santes Ceinwen
Santes Gymreig o'r 5g / From Wikipedia, the free encyclopedia
Santes oedd Ceinwen ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog [1] a ganwyd yn y 5g. Pan benderfynodd ei chwaer Dwynwen symud i Ynys Môn, aeth Ceinwen gyda hi. Sefydlodd Llangeinwen, yn ne-orllewin Ynys Môn, tua phedair milltir oddi wrth ei chwaer a drigai yn Llanddwyn. Sefydlodd 'Gerrig Ceinwen' ble roedd ganddi ffynnon sanctaidd.[2] Ni wyddom rhagor amdani, mae'n debyg oherwydd y sylw a roddwyd i'w chwaer enwocach.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Santes Ceinwen | |
---|---|
Ganwyd | 450 |
Man preswyl | Morgannwg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 7 Hydref |
Tad | Brychan |
Cau
Gwylmabsant Ceinwen yw 8 Hydref.
Ni ddylid cymysgu hi gyda'i chwiorydd Cein(drych) a Cynheiddon neu gyda Canna (santes o'r 6g).