Y Drenewydd
tref yng Nghymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, ydy'r Drenewydd (Saesneg: Newtown). Dyma dref fwyaf y sir. Saif ar lannau afon Hafren, ger y ffin â Lloegr. Mae'r dref yn enwog fel un o ganolfannau hanesyddol diwydiant gwlân Cymru ond fe'i hadnabyddir yn bennaf fel tref enedigol Robert Owen (ym 1771). Mae'r tŷ lle'i magwyd yn hanesyddol bwysig ac wedi'i droi'n amgueddfa. Yma hefyd mae Theatr Hafren ac Oriel Davies Gallery (yr enw swyddogol).[1]
Stryd Fawr lydan, Y Drenewydd | |
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 11,357 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Hafren |
Cyfesurynnau | 52.5132°N 3.3141°W |
Cod OS | SO115915 |
Cod post | SY16 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au | Craig Williams (Ceidwadwr) |
- Mae "Drenewydd" yn ailgyfeiriad i'r dudalen hon. Gweler hefyd Drenewydd (gwahaniaethu).
Yn y Drenewydd roedd pencadlys cwmni Syr Pryce Pryce-Jones, y cwmni cyntaf yn y byd i werthu drwy'r post. Mae'n debyg y bu'r cwmni yn gwerthu dillad isaf i'r Frenhines Victoria, hefyd. Mae amgueddfa Syr Pryce-Jones yn y dref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]